Amseroedd: Llun-Mer 7.30pm, Gwe 5.30pm & Sad 2.30pm Tocynnau £5, £10, £16, £24, £29 Lau & Sad 7.30pm & Gwe 8.30pm Tocynnau £10, £16, £24, £28, £32
Pris:
Dyddiad: 10-15 Tac 08
Bydd y gwreichion yn tasgu’r hydref hwn wrth i gynhyrchiad Perfformiad Cyntaf Flashdance - The Musical ffrwydro ar y llwyfan yng Nghaerdydd.
Wedi ei leoli’n Pittsburgh, UDA, mae Flashdance yn adrodd hanes Alex, merch 18 oed sy’n weldiwr yn ystod y dydd ac yn ‘fflach ddawnsiwr’ gyda’r nos ac sy’n breuddwydio am gael lle yn y Shipley Dance Academy nodedig.
Yn seiliedig ar ffilm Paramount Pictures (sgript gan Tom Hedley a Joe Eszterhas, stori gan Tom Hedley) mae Flashdance yn sioe gerdd unigryw am gynnal ffydd mewn breuddwyd a chariad er gwaethaf popeth. Mae gan y sioe sgôr eiconig sy’n cynnwys “Maniac", “Manhunt”, "Gloria", “I Love Rock & Roll” a’r gan ”Flashdance - What a Feeling” a enillodd Wobr Oscar.
Yn llawn ynni cignoeth a choreograffi gwych gan Arlene Phillips (Strictly Come Dancing, Grease, Starlight Express, Saturday Night Fever) mae Flashdance - The Musical yn addo bod yn ddigwyddiad theatrig y flwyddyn - felly ewch amdani!