


Arddangosfa gan Michael Freeman, y curadur, ar sail ei ymchwil sy’n mynd rhagddo ar y testun hwn. Bydd yn dangos y wisg Gymreig fel yr oedd mewn gwirionedd ac nid cynnyrch ystradebol rhamantus y cardiau post Fictorianaidd.
Hefyd, bydd arddangosfa i fynd gyda hon yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o baentiadau, printiau a ffotograffau a fydd yn dangos y wisg Gymreig yn y ddwy ganrif ddiwethaf.
Hefyd, bydd y ddwy arddangosfa hon yn mynd ymhell i chwalu’r chwedlau niferus sydd wedi datblygu o amgylch yr eicon Cymreig mwyaf emosiynol, sef yr het Gymreig.