


Yn wreiddiol o Gernyw, mae fy ngwaith yn ymwneud â’r syniad o naratif a hunaniaeth mewn ffotograffiaeth stiwdio a sefyllfaoedd wed’u gosod. Rwy’n defnyddio fi fy hun fel yr unig fodel er mwyn creu personau gwahanol mewn bodolaeth swreal, sy’n aml yn orlawn o bethau, gyda naratif amwys a thoredig.
Trwy ddefnyddio technegau gweddnewid ffotograffiaeth ddigidol i greu delweddau real o’r amhosib, rwy’n lluosi fy hun o fewn y ffrâm ar ffurf cymeriadau gwahanol. Efallai nad lluniau ohonof i fy hun mo’r rhain, ond yn sicr nid ydynt yn hunan bortreadau. Rwy’n gweithio i greu haenau o realiti wedi’i lwyfannu sydd ar brydiau’n theatrig iawn, ac sydd wedi’u hysbrydoli gan amryw o bethau gwahanol, o baentio clasurol i sinema gyfoes.