A Night at the Opera
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd: 20:00
Pris: £23, £27, £30
Dyddiad: 30 Hyd 08
O’r diwedd, digwyddiad i ddathlu detholiad o’r gerddoriaeth mwyaf poblogaidd erioed! Mae A Night at the Opera, gyda Jonathan Ansell, gwesteion arbennig a Cherddorfa Night at the Opera, yn ddathliad godidog o’r ariâu enwocaf yn y byd.
Dair blynedd yn ôl daeth Jonathan Ansell, y tenor ifanc â’r llais iasol, yn enwog dros nos gyda’r grwp opera pop G4 ar raglen X Factor. Erbyn hyn mae wedi llwyddo fel unawdwr o fri. Profodd Jonathan lwyddiant anhygoel fel aelod o G4, grwp a hyfforddwyd yn glasurol, pan werthwyd bob un tocyn ar gyfer eu sioe olaf fel grwp yn y Royal Albert Hall. Ac mae wedi rhagori ar hyn, gyda record ei hun a aeth i frig y siartiau clasurol ac a gyrhaeddodd y deg uchaf yn y siartiau pop.
Yn cynnwys Aida, The Barber of Seville, La Boheme, Carmen, Cosi Fan Tutte, Don Giovanni, The Marriage of Figaro, Madame Butterfly, The Magic Flute, Rigoletto Tosca, La Traviata a llawer mwy.