Otello
WNO
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 19 Med 08 - 11 Hyd 08
Gwener 19, Mercher 24 a Sadwrn 27 Medi, Sadwrn 4 a Sadwrn 11 Hydref
Y cast yn cynnwys Dennis O’Neill, Amanda Roocroft, David Kempster, David Soar, Wynne Evans a Claire Bradshaw
Y cynhyrchiad newydd hwn o Otello Verdi, y campwaith grymus a ystyrir yn binacl opera Eidalaidd, fydd yn agor tymor Hydref OCC yn 2008.
Mae’r gwaith hudolus hwn yn dilyn cwymp y Môr urddasol, y Cadfridog Otello - sy’n colli popeth sy’n annwyl iddo, gan gynnwys ei bwyll ei hun, oherwydd yr eiddigedd, yr uchelgais, y twyll a’r atgasedd sy’n cael eu hachosi gan ei ddirprwy, Iago. Mae’r dihiryn cynllwyngar hwnnw’n hudo Desdemona, gwraig Otello, ac yn ei ddarbwyllo ef ei bod hi’n anffyddlon iddo - a hynny’n achosi trasiedi wirioneddol.
Y cynhyrchiad newydd sbon hwn fydd y tro cyntaf i Paul Curran, y cyfarwyddwr o fri sydd newydd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Cwmni Opera Norwy, i weithio ym Mhrydain. A bydd yn arddangos ar ei orau lais rhyfeddol Dennis O’Neill, a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Perfformiadau’n dechrau am 7.15pm
Hyd tua 2 awr 45 munud
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Gymraeg ac yn Saesneg
Sgyrsiau cyn perfformiadau am 5.30pm a 6.15pm