For You
Music Theatre Wales
Sherman Cymru
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4YE
Amseroedd: 19:30
Pris: £14, £12 Dan 19: £8
Dyddiad: 11 Tac 08
Dau o brif ffigyrau creadigol y DU yn cyflwyno For You, opera wefreiddiol, gyffrous am obsesiwn a chwant.
Mae’n dilyn hanes y cyfansoddwr a’r merchetwr Charles Freith – dyn carismatig, myfiol sy’n gwbl ddall i’r nwyd dinistriol sydd ar fin taro calon ei gartref.
Gwelir yn y testun rhagorol hwn, gan Ian McEwan, yr holl elfennau sydd wedi sicrhau fod ei nofelau Atonement, Enduring Love, Saturday ac On Chesil Beach wedi cyrraedd brig y rhestrau llyfrau. Ysbrydolwyd y cyfansoddwr a’r darlledwr Michael Berkeley i greu sgôr arbennig - cerddoriaeth sy’n llawn isgerrynt pwerus, grym dramatig ac ysgrifennu lleisiol sy’n llawn angerdd.
Alan Opie, y baritone bydenwog sy’n creu rôl Charles Frieth. Yn ymuno ag ef yn y cast nodedig mae Christopher Lemmings, Rachel Nicholls, Helen Williams, Jeremy Huw Williams, ac Allison Cook.