ACW
WAG

Newyddion



Bydd drama ddadleuol ddiweddaraf yr Offeiriad, Aled Jones Williams, yn cael ei llwyfannau am y tro cyntaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Mae Iesu! yn edrych o’r newydd ar arwyddocâd croesoliad Crist mewn byd sy’n llawn rhyfel a dioddefaint.

“Mae Iesu! yn gyfle i edrych eto ar y cymeriad hanesyddol ac i ail-ddiffinio Cristnogaeth,” medda’r Parchedig Aled Jones Williams, sydd wedi bod yn Offeiriad Plwyf Porthmadog ers 13 mlynedd.

“Er na faswn i’n disgrifio Iesu! fel drama grefyddol fel y cyfryw y mae hi’n godi cwestiynau perthnasol yngl?n â rôl crefydd uniongred, gan gynnwys fy nghrefydd fy hun, yn arbennig ar ôl Medi’r unfed ar ddeg,” ychwanegodd.

Fel rhan o’r broses o ganfod atebion i’w gwestiynau mae Aled Jones Williams wedi gosod yr Iesu mewn corff merch.

“Bu’r llun a greodd dychymyg dyn o Iesu Grist yn un sy’n ddigon benywaidd ei ffurf gyda’r gwallt hir yna rydan ni’i gyd mor gyfarwydd ar o,” ychwanegodd.

“Rwyf wedi mynd â’r ddelwedd yna un cam ymhellach i weld o y bydd y gynulleidfa yn gweld unrhyw arwyddocâd yn hynny,” meddai.

Bydd Iesu! sy’n gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf yn Theatr Sherman, Caerdydd (029 2064 6900) ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, 5-8 Awst, 2008. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.00 o’r gloch a chynhelir sesiwn i drafod y ddrama gydag Aled Jones Williams yn dilyn y perfformiad ar nos Iau, Awst 7.

Cynhelir trafodaeth hefyd ar Iesu! yn Thearr Fach y Maes yr Eisteddfiod Genedlaethol fore dydd Iau, Awst 7, am 11.30 o’r gloch. 

I gyd-daro â llwyfaniad cyntaf Iesu! mae Gwasg Gomer yn cyhoeddi’r ddrama ac yn gwerthu’r gyfrol yn Theatr y Sherman ac ar faes yr Eisteddfod

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd Iesu! yn teithio o gwmpas prif theatrau Cymru gan ddechrau yn Theatr Gwynedd, Bangor (01248 351708) ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 11-13 Medi, 2008, cyn mynd ymlaen i:

· Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 17-19 Medi, 2008;

· Theatr Lyric, Caerfyrddin (0845 226 3508) ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 24-26 Medi, 2008;

· Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565) ar nos Iau, Gwener a Sadwrn, 2-4 Hydref, 2008; ac yna

· Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth (01970 623232) ar nosweithiau Gwener a Sadwrn , 10-11 Hydref, 2008.

Bydd y perfformiadau hyn yn dechrau am 7.30 o’r gloch. Mae’r ddrama’n cynnwys iaith fras a golygfeydd o natur rhywiol.