Sherman Cymru/Torri Gair - Yr Argae
Gan Conor McPherson Cyfieithiad Wil Sam Jones o The Weir Cyfarwyddwr Arwel Gruffydd, Cynllunydd Gwyn Eiddior Cynllunydd Goleuo - Elanor Higgins Teyrnged i’r diweddar Wil Sam “Ysbrydion ac angylion ag ati? Damia nhw. Fedra i mo’u haros nhw.” Mewn tafarn fechan, wledig ym mhellafion digyffro’r Ynys Werdd, mae tri hen lanc yn rhannu sgwrs a pheint – yn ôl eu harfer. Ond heno, mae Finbar Mack yn hwylio i mewn o’r dre’ a gwraig ifanc, newydd i’r ardal, o dan ei aden. Wrth i wres y tân eu dwyn yn nes ac i win y gwan iro’r dweud, mae pawb yn eu tro yn datgelu tipyn o’u hanes – a’r hanesion fymryn mwy arswydus na’r disgwyl. Daw’n amlwg fod yma fwy na chysur a chwmnïaeth deg ar noson stormus; mae yma ofn ac unigrwydd a hiraeth. Wedi ei throsi i’r Gymraeg gan Wil Sam yn ei arddull hynaws, ddihafal, dyma ddrama iasol sy’n mynd i’r afael â’r digwyddiadau mawrion hynny sy’n ein diffinio fel unigolion, a’r profiadau bychain sy’n ein dwyn ynghyd. Yn cynnwys iaith grefNeuadd Dwyfor (11-12 Chw 09)





