ACW
WAG

Gwyl LENS Festival

The National Library of Wales

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Penglais
ABERYSTWYTH 
Ceredigion
SY23 4PP  
Map
Amseroedd: 10.00-16.15
Pris: Tocynnau Cyffredinol :£20
Myfyrwyr: £14
Tocynnau i gyd yn cynnwys cinio
Dyddiad: 1-1 Tac 08
The National Library of Wales

Lens 4 - Cynefin


Gwyl Dogfennu Cymru â’r Camera
Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd 2008
10.00 - 16.00


Archebu Tocyn Arlein

 

Bydd rhai o ffotograffwyr amlycaf Cymru yn rhoi cyflwniadau darluniol ar y thema ’Cynhefin’ yng nghwyl Lens ar y 1 o Dachwedd.

 

 

Amserlen Lens


10.00 - 10.30
Cofrestru

 

10.30 - 11.15

Paul Cabuts - Ffotograffydd a myfyriwr ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Ffotograffig Ewropiaidd yn Ysgol Gelf Casneweydd fydd yn edrych ar berspectif tri ffotograffydd gwahanol o’r 1950au ; W Eugene Smith, Robert Frank a Geoff Charles.

 

11.15 - 11.30

Paned

 

11.30 - 12.15

Haydn Denman - Ffotograffydd annibynnol, dyn camera proffesiynol ac enillydd gwobr BAFTA sydd wedi teithio’r byd yn tynnu lluniau o’r llefydd lliwgar a’r bobl y cyfarfu â hwy.


12.15 - 12.45

Teyrnged i Philip Jones Griffiths - Teyrnged drwy ffilm a ffotograff i un o ffotograffwyr enwocaf Cymru, Philip Jones Griffiths.

 

12.45 - 14.00

Cinio

 

14.00 - 14.45

Robert Haines - Bydd yn trafod ei waith Once upon a time in Wales, sydd yn gasgliad o luniau a dynnwyd rhwng 1971-2 o’i gymuned enedigol Heolgerrig ym Merthyr Tydfil mewn cyfnod o anghydfod wrth i’r pentref gael ei ail-ddatblygu.

 

14.45 - 15.30 

Jeremy Moore -  Ffotograffydd tirwedd sydd bellach wedi ymsefydlu yn nghanolbarth Cymru ac yn arbennigo yn nhirwedd Cymru. Bydd Jeremy yn trafod ei broject diweddaraf Rhwng y ddaear ar nefoedd sef archwiliad o dirwedd naturiol a thirwedd diwydiannol Blaenau Ffestiniog.

 

15.30 - 16.15

Sesiwn cwestiwn ac ateb

 
Lens yw’r unig wyl o’i bath yng Nghymru ac mae’n gyfle gwych i ffotograffwyr proffesiynol ac amatur, archifwyr a chasglwyr, haneswyr a newyddiadurwyr i drafod ffotograffiaeth yng Nghymru ac i wybod mwy am gyfoeth ffotograffau Cymru a chasgliad unigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad mwya’r genedl o ffotograffau dogfennol. Mae yna 800,000 o ffotograffau o’r llun cyntaf a dynnwyd yng Nghymru yn 1841 i weithiau gan ffotograffwyr cyfoes.

 

Tocynnau
(Cinio yn gynwysedig yn y pris)

Cyffredinol £20 
Myfyrwyr £14


Tocynnau ar gael drwy ffonio Siop y Llyfrgell ar 01970 632 548 neu arlein www.llgc.org.uk/lens08