ACW
WAG

Gweithdai Alawon a Dawnsio Morys

Trac

Golwg Ar Gymru

Amseroedd: 10am - 4pm
Pris: £6 y diwrnod/£3 gostyngiadau.
Dyddiad: 11 Hyd 08
Gweithdai Alawon a Dawnsio Morys

Ydych chi erioed wedi meddwl bod hwnnw i’w weld yn hwyl, ond ddim yn gwybod sut mae ymuno? Ydych chi’n ffansïo dysgu ychydig mwy o alawon a dysgu’r dawnsiau sy’n cyfateb iddynt? Hoffech chi ddysgu mwy am draddodiadau Morys y Cotswolds?

Neu draddodiadau Morys y Ffin? Neu hyd yn oed dawns y cleddyf neu ddramau’r mudchwarewyr? Ydych chi am fwynhau cadw’n heini, tra’n cwrdd â ffrindiau newydd?

Os gallwch ateb Ydw i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, yna fydd y gweithdy yma’n eich siwtio i’r dim. Mae’n agored i offerynwyr a ‘does dim rhaid bod yn arbenigwr; i ddechrau, byddwn yn grwpiau pawb yn ôl eu profiad. Wedi cyfnod o ddysgu alawon ar gyfer dawnsiau penodol, bydd pawb yn dod at eu gilydd i roi tro ar chwarae cerddoriaeth a dawnsio (er nad oes disgwyl i chi wneud y ddau beth ar yr un pryd!)

Er eu bod wedi’i hanelu at bobl sydd am chwarae cerddoriaeth yn ogystal â dawnsio, mae’r gweithdy’n agored i bobl sydd am wneud y naill neu’r llall yn unig.

Os byddwch yn mwynhau’r gweithdai ac am wneud mwy, bydd the Men of Sweyn’s Ey wrth law gyda manylion o amserau ymarfer a pherfformio. Pwy a wyr, efallai byddwch yn ymuno â’r grwp Morys hen-sefydledig ac uchel ei barch yma.