Stravinsky! A Celebration
Birmingham Royal Ballet
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd: Maw a Mer 7.30pm a Mer 2pm
Pris: £15-30
Dyddiad: 21-22 Hyd 08
The Firebird
Yr enwocaf o holl sgoriau ballet Stravinsky, mae The Firebird yn stori gyffrous sy’n seiliedig ar chwedl o Rwsia a fydd yn cyfareddu’r teulu cyfan. Yng ngardd iasol y cawr bygythiol Kastchei, mae tywysoges gaeth ac afal aur mewn coeden uchel. Yna, mewn fflach o oleuni, mae’r aderyn tân ysblennydd yn ceisio cipio’r ffrwyth aur, mae’n cael ei dal gan y Tywysog Ivan, sy’n mynnu pluen o’i chynffon lliwgar i’w amddiffyn yn erbyn drygioni Kastchei. Gyda dim ond pluen hud i’w amddiffyn, mae’r tywysog yn cychwyn ar ei daith i achub y dywysoges gaeth ac ennill ei chalon.
Petrushka
Ers y perfformiad cyntaf gan y Ballets Russes yn 1911, mae Petrushka wedi parhau i fod yn ddylanwad anarchaidd ar lwyfannau ledled y byd. Ym mallet Fokine daw holl hwyl gwyllt Ffair Wythnos Ymenyn St Petersburg yn fyw ar y llwyfan, ac mae’r Petrushka afreolus yn dechrau achosi helynt o’r cychwyn cyntaf. Yna, mae’n mynd un cam pren yn rhy bell a daw diwedd anffodus i’r pyped hwn - ond mae bywyd ar ôl yn yr hen ddoli o hyd!
Le Baiser de la fée
Dyma deyrnged BRB i’r cyfansoddwr Igor Stravinsky ac mae’n rhywbeth arall i edrych ymlaen ato yn 2008, gyda fersiwn newydd o Le Baiser de la fée gan y coreograffydd Michael Corder. Mae’r ballet hyfryd hwn yn rhoi gwedd newydd ar stori iasol Hans Christian Andersen, Y Forwyn Iâ. Wedi’i swyno gan blentyn ar goll yn y mynyddoedd, mae’r Forwyn yn rhoi cusan iddo - un na all ddianc rhagddi.