ACW
WAG

Adventures in OneLoveLand

Sherman Cymru

Ffordd Senghennydd

Caerdydd CF24 4YE

Map
Amseroedd: 20:00
Pris: £3
Dyddiad: 10 Med 08
Adventures in OneLoveLand

Cyfle unigryw i weld y gr?p anhygoel hwn, yr holl ffordd o Awassa yn Ehtiopia, yn perfformio addasiad o glasur Lewis Carroll, ‘Alice’s Adventures in Wonderland’.

Yn y sioe hon gan One Love maent yn cyflwyno’u cyfuniad unigryw o theatr, syrcas a dawns wrth adrodd stori Abeyot, g?r ifanc o Ethiopia. Mae’r sioe yn dilyn ei daith i, ac o,‘OneLoveLand’, gwlad sydd ar yr un pryd yn gwbl ddieithr ac eto’n gyfarwydd. Gan gyffwrdd ag agweddau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd bywyd yn Affrica nod y perfformiad hwn, yn fwy na dim, yw hybu gobaith yn y frwydr am les cenhedlaeth nesaf Affrica.