ACW
WAG

The Aluminum Show

New Theatre

Park Place

CARDIFF

CF10 3LN

029 2087 8889

Map
Amseroedd: Iau a Gwener 7.30pm; Sadwrn 5.00pm ac 8.00pm
Pris: £7 - £25
Dyddiad: 11-13 Med 08
The Aluminum Show
Prin fod yna eiriau digonol i ddisgrifio The Aluminum Show – ond mae beirniaid wedi defnyddio ansoddeiriau fel ‘gwych’, ‘rhyfeddol’ ac ‘anghredadwy’ i geisio disgrifio’r sioe arbennig hon. Daw criw o ddawnswyr, acrobatiaid ac athletwyr medrus ynghyd i greu ffantasi ryfeddol o ddawns, pypedau ac effeithiau arbennig: lle mae mwydod maleisus yn ymlusgo, clustogau enfawr fel cymylau yn yr awyr, cawr yn crwydro’r theatr a dwy bibell gariadus yn hudo’i gilydd… A chyn i chi feddwl eich bod wedi gweld y cyfan, bydd golygfa newydd yn datblygu i’ch hudo a’ch swyno ymhellach.