Cool Rules and Fams
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd: 20:00
Pris: £10
Dyddiad:
17 Hyd 08
Holi ac Ateb ar ôl y Sioe | Am ddim gyda thocyn sioe
Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, Curtis James (30 munud)
Cool Rules - Cyfarwyddir gan Jonzi D
Stori am obeithion a dyheadau dyn ifanc yn tyfu i fyny yn y Brydain fodern yn erbyn cefndir o sêr ffrwydrol a gwirioneddau cyffredinol.
Gan ddefnyddio telynegiaeth gorfforol a deheurwydd geiriol, mae Cool Rules yn eich cyflwyno i realiti dinesig caled.
Mae’n stori gref, ddigyfaddawd am falchder, ofn a gobaith sy’n mynd i’r afael â’r cynnydd enfawr mewn trais o fewn cymunedau’r ifanc.
Fams - cyd-ysgrifennwyd a chyfarwyddir gan Benji Reid
Mae dau ddieithryn yn mynd i mewn i ystafell aros mewn ysbyty, ac yn gadael fel brodyr. Taith ganfod ddigri am ddau ddyn sy’n ceisio datrys pwy ydynt ac i ba gyfeiriad y mae eu bywydau’n mynd sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu hunaniaeth a chydberthnasau modern rhwng meibion a’u tadau.