ACW
WAG

Lluniau gan Frank Green

Oriel Dafydd Hardy

Oriel Dafydd Hardy

Y Maes
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2NF
Map
Amseroedd: Dydd Llun – Dydd Gwener 10yb – 4yp, Dydd Sadwrn 10yb - 1yp.
Pris: Am ddim
Dyddiad: 3-24 Hyd 08

Ganwyd Frank Green yn Llanffynhonwen (Chirbury), Sir Amwythig ym 1943 i deulu o Lerpwl, wedi iddynt symud yno i osgoi y bomio yn Lerpwl. Dychwelsant i Lerpwl ym 1944 ac, o’i ddyddiau cynnar yno, dylunio oedd y peth pwysicaf ym mywyd Frank.

Yn 17 mlwydd oed, wedi blwyddyn o waith mewn swyddfa cyfrifydd siartiedig ynghanol Lerpwl derbyniwyd Frank i Goleg Celf Lerpwl, ble ’roedd o yn ei elfen ymysg pobl a oedd ganddynt yr un angerdd am ddylunio.

Y mae’r dyluniadau a arddangosir unai yn ddarnau gorffenedig neu yn ddyluniadau paratoadol ar gyfer peintiadau. Bu Frank yn angerddol am dirwedd Lerpwl yn ystod ac ers ei ddyddiau coleg, ac y mae ei waith yn gofnod gwerthfawr o’r chwalfa fawr yn strydoedd Everton yn y saithdegau ac yn Anfield heddiw.

Dywed Frank Green nad oes rhan o Lerpwl sydd heb hoel Cymro arno. Fe’i magwyd mewn stryd a adeiladwyd gan un o Gemaes ble trigai llawer o frodorion o Sir Fôn a Chaernarfon a siaradai Cymraeg. Cymry o Sir Gaernarfon oedd prif athrawon yr ysgolion cynradd a uwchradd a fynychodd Frank yn Walton, Lerpwl. ’Roedd Coleg Celf Lerpwl, hefyd, yn llawn o fyfyrwyr ac athrawon o Gymru.

Arddangosir lluniau Lerpwl ,Yr Eidal, Malta a Chymru.