


Y Promenade
Llandudno
Gwynedd
Mae’n amser Dafydd a Goliath. Mae technoleg newydd yn golygu gall chwaraewyr bychan hefyd adael eu stamp marchnata, sy’n draddodiadol wedi ei gadw ar gyfer busnesau mawr gyda chyllideb fawr. Beth mae’r datblygiadau digynsail yma yn ei olygu i chi?
Dysgu sgiliau marchnata newydd a diweddaru’r rhai sy’n bodoli’n barod
Edrych ar esiamplau marchnata o’r byd go iawn
Golwg ar ffasiwn gyfredol mewn technoleg marchnata ar-lein
Darganfod datblygiadau mewn technoleg y dyfodol
Gweithdai Ymarferol
Go Mobile: Chris Mills, Rheolwr Datblygu Perthnasau, Opera Software
DIY? : Basheera Khan, ysgrifennwr a ffotograffydd, a Simon Cotton, Rheolwr Gyfarwyddwr, View Creative
Rhwydweithio anffurfiol: dan gyfarwyddyd tîm bloc y
gogledd mewn partneriaeth a Phrosiect Datblygu’r Cyflenwr Lleol, Llywodraeth y Cynulliad
Seminar
Mark Boulton, Cyfarwyddwr Creadigol, Mark Boulton Design
Tom Kay & Ernest Capbert, Finisterre
Richard Ishida, Arweinydd Gweithgaredd Mewnoli, W3C (Consortiwm y We Fyd-Eang).
Archebwch le nawr! AM DDIM ond mae’n hanfodol archebu lle o flaen llaw.
Manylion pellach ag archebu lle ar-lein: www.bloc.org.uk