


Y saith llyfr Potter mewn saith deg munud! Gwyliwch y ddeuawd gomedi Dan a Jeff yn ymgymryd â’r her eithaf, gyda chymorth gwisgoedd diddiwedd, caneuon gwych, propiau chwerthinllyd, a dogn helaeth o hud Hogwarts.
Mae’r sioe wirioneddol ddigrif hon yn cynnwys eich hoff gymeriadau, ymddangosiad arbennig gan ddraig yn anadlu tân, a gêm o Quidditch hyd yn oed, gyda’r gynulleidfa!
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yng Ngwyl Caeredin ac yn Llundain, mae’r daith genedlaethol gyntaf hon yn gyfle rhy dda i’w golli i ddilynwyr Potter, ac yn gyflwyniad gwych i’r gyfres i’r rhai sydd heb ddarganfod hud y dewin ifanc.
Adnabyddir Dan a Jeff yn bennaf am eu hymddangosiadu ar Blue Peter yn adrodd chwedlau, hefyd perfformiwyd rhan o’r sioe ar raglen Richard a Judy ar Sianel 4.
Cyfarwyddyd oed 6+