Hwyl i Blant dan 8
Galeri Caernarfon
Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
01286 685252
Amseroedd: 14:00 & 17:00
Pris: £4.50
Dyddiad:
19 Aws 08
Dyma gyfle i weld un o brif ddiddanwyr plant Cymru yn dod â gwen i wynebau plant (a’u rhieni) ar ddiwrnod arbennig o adloniant i’r ifanc yn ystod y gwyliau. Mi fydd Martyn yn perfformio 2 sioe wahanol yn ystod y dydd.
2pm - Antur yr Anifeiliaid
Cawn gyfle i gwrdd ag anifeiliaid o’r fferm ac o’r jwngl yn ystod awr o ganu a chwerthin. Pam na ddowch chi wedi gwisgo i fyny fel eich hoff anifail?
5pm - Ble mae Ianto?
Os bydd Ianto (sef un o ffrindiau Martyn) yn cyrraedd o gwbl, bydd Martyn yn ceisio ei helpu i ddysgu am rannau’r corff, sut i gyfri a sut i fwyta’n iach ymysg pethau eraill yn ystod awr arall o ganu a chwerthin. Dowch â’ch hoff byped neu ddoli hefo chi er mwyn iddyn nhw ddysgu mewn ffordd hwyliog hefyd!