


Wedi enwi ar ôl hen jig Gwyddelig traddodiadol, mae Cherish The Ladies yn adnabyddus fel un o’r grwpiau mwyaf dymunol o fewn cerddoriaeth Wyddelig. Wedi ei ffurfio’n wreiddiol ugain mlynedd yn ôl yn gysyniad unigryw, mae Cherish The Ladies wedi tyfu’n gynnwrf o gerddoriaeth Wyddelig draddodiadol, yn llythrennol, y grwp Gwyddelig-Americanaidd mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd mewn hanes cerddoriaeth Wyddelig. Dros y blynyddoedd, mae’r grwp wedi chwarae mewn gwyliau a chyngherddau ar draws y byd, gan rannu llwyfannau gyda artistiaid megis James Taylor, Joan Baez, Emmy Lou Harris a The Chieftains, i enwi ond ychydig.
Mae acolâdau niferus y band yn cynnwys Grwp Adloniant y Flwyddyn (Papur Newydd Irish Voice) a Gwobr Grwp Rhyngwladol y Flwyddyn (Celtic Connections mawreddog Glasgow).
Yn Ionawr perfformiodd y band yn Celtic Connections am y13eg waith mewn hanes 15eg mlynedd yr Wyl, i gynulleidfa dan ei sang yn y Brif Awditoriwm yn y Neuadd Gyngerdd Frenhinol.
Mae Cherish The Ladies yn unigryw gan mai band cerddoriaeth Wyddelig draddodiadol ydyw sy’n cynnwys merched yn unig, sydd yn unigol ag angerdd a dealltwriaeth ddofn o gerddoriaeth draddodiadol.
Mae hyn yn amlwg mewn pob perfformiad, gyda jigiau, riliau, polcas a jigiau slip yn cael eu cyflwyno gyda dawn gerddorol a chanu aruthrol, ac ymddangosiad dawnswyr Gwyddelig o’r radd flaenaf.
www.cherishtheladies.com