ACW
WAG

Yr Argae

Sherman Cymru

Ffordd Senghennydd

Caerdydd CF24 4YE

Map
Amseroedd: 19:45
Pris: £10/8
Dyddiad: 4-9 Aws 08
Yr Argae

“Ysbrydion ac angylion ag ati? Damia nhw. Fedra i mo’u haros nhw.”

Mewn tafarn fechan, wledig ym mhellafion digyffro’r Ynys Werdd, mae tri hen lanc yn rhannu sgwrs a pheint – yn ôl eu harfer. Ond heno, mae Finbar Mack yn hwylio i mewn o’r dre’ a gwraig ifanc, newydd i’r ardal, o dan ei aden.

Wrth i wres y tân eu dwyn yn nes a gwin y gwan iro’r dweud, mae pawb yn eu tro yn datgelu tipyn o’i hanes – a’r hanesion fymryn mwy arswydus na’r disgwyl. Daw’n amlwg fod yma fwy na chysur a chwmnïaeth deg ar noson stormus; mae yma ofn ac unigrwydd a hiraeth.

Wedi ei throsi i’r Gymraeg gan Wil Sam yn ei arddull hynaws, ddihafal, dyma ddrama iasol sy’n mynd i’r afael â’r digwyddiadau mawrion hynny sy’n ein diffinio fel unigolion, a’r profiadau bychain sy’n ein dwyn ynghyd.

Gyda chymorth Nant.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn digwydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a’r Cylch 2008.