


Park Place
CARDIFF
CF10 3LN
029 2087 8889
Gyda stori gyffrous wedi’i hadrodd gan yr actor o fri Christopher Lee, bydd dawnswyr penigamp yn eich tywys ar daith liwgar sy’n cyfuno comedi, trasiedi, rhamant a hud a lledrith. Gydag effeithiau arbennig anhygoel a dawnsio tap byrlymus ac egnïol, bydd esgidiau’r dawnswyr ar dân – yn llythrennol – o flaen eich llygaid ar y llwyfan!
Mae’r cast yn cynnwys rhai o’r dawnswyr Gwyddelig gorau, a bydd eu sgiliau traddodiadol yn wrthgyferbyniad llwyr i ddoniau dawnsio tap cyfoes y New York Tap All Stars. Un o uchafbwyntiau nosweithiol y sioe fydd ‘The Challenge’, lle mae dau griw o ddawnswyr yn gwneud eu gorau glas i ragori ar ei gilydd gan greu gwreichion go iawn!