Fe ddaeth Deddf Gwahaniarthu ar Sail Anabledd i fodolaeth yn 1995, ac fe’i gywirwyd ar Hydref 1af 2004. Yn awr, mae’n rhaid i bob adeilad cyhoeddus wneud yn siwr bod pobl ag anabledd yn gallu cael mynediad yn rhwydd. Ers hyn, mae’r celfyddydau o fewn cyrraedd pobl anabl, ac mae technoleg newydd yn annog pobl i gymryd rhan.
Canllawiau
Mynediad drwy Lifft
Perfformiad wedi dehongli gyda iaith arwyddo
Gall pobl byddar, neu rhai a chlyw amharus, weld perfformiad gyda person yn defnyddio Iaith Arwyddo Prydeinig ar ochr y llwyfan.
Perfformiad gyda pennawdau
Gall pobl byddar, neu rhai a chlyw amharus, ddarllen sgript y perfformiad ar sgrin. Fel arfer bydd y sgrin naill ai uwchben neu wrth ochr y llwyfan, fel gallent weld y perfformiad hefyd.
Perfformiad wedi ei ddisgrifio
Gall pobl dall, neu a golwg amharus, wrando ar adroddwr yn disgrifio’r set a symudiadau drwy glustffonnau, mmewn munud dawel yn y perfformiad.
System Loop / Infa-red
Gall pobls sy’n gwisgo teclyn clywed ei ddodi ar ‘T’. Mae hwn yn gadael i’r teclyn ‘glwed’ swn electronig yn hytrach na phob swn arferol. Drwy hyn fe all glywed yr hyn sy’n dod drwy system swn y theatr.
Pennawdau, Braille a Phrint Bras
Mae orielau ac amgueddfeydd yn darparu arwyddion nesaf i’r arddangosfeydd yn egluro darnau unigol.
Teithiau Cyffwrdd
Gall pobl dall, neu rhai a golwg amharus, gael taith o lwyfan/oriel cyn digwyddiad i fedru deall cynllun y set.
Cwn Tywys
Mae unrhyw le sy’n arddangos yr arwydd yma yn gadael cwn tywys i fewn.
Toiled Anabl